Monday 24 September 2012

Y Kindle yn parhau i wrthod cydnabod elyfrau Cymraeg



Bellach mae tua hanner cant o lyfrau Cymraeg y Lolfa ar gael ar y Kindle ond yn anffodus mae Amazon yn parhau i wrthod cydnabod yr iaith Gymraeg. Mae’r llyfrau Cymraeg sydd ar werth ar y Kindle wedi gorfod cael eu llwytho fel llyfrau Saesneg ac fel arfer mae’r llyfrau Cymraeg yn cael eu gwrthod am nad ydynt yn adnabod yr iaith (mae’r system checio sydd ganddynt yn eitha chwit chwat - felly mae rhai llyfrau Cymraeg wedi llithro drwy’r rhwyd). Mae Amazon, fodd bynnag, yn cydnabod Catalwneg, Basgeg a Galiseg ac mae modd cyhoeddi elyfau ar gyfer y Kindle yn yr ieithoedd yma yn ddi-drafferth, heb orfod ceisio darganfod rhyw ddrws cefn ac esgus eu bod yn lyfrau Saesneg. Gweler isod y dewis o ieithoedd sydd ar gael wrth i ni lwytho llyfrau ar wefan KDP.

 

Rydym fel gwasg wedi cysylltu droeon gydag Amazon i gwyno am hyn ac wedi derbyn negeseuon annelwig yn sôn eu bod yn edrych i mewn i’r mater. Er mwyn cael y maen i’r wal byddwn yn gwerthfawrogi yn fawr petai modd i bobl sy’n defnyddio’r Kindle i gwyno am eu hamharodrwydd i gydnabod y Gymraeg a gwerthu llyfrau Cymraeg. Does dim rheswm yn y byd pan na ddylai KDP gefnogi llyfrau yn yr iaith Gymraeg yn yr un modd ag y maent yn cefnogi ieithoedd “llai eu defnydd” yn Sbaen.

Mae yna nifer o declynnau darllen elyfrau ar gael  heblaw am y Kindle (e.e. Kobo, Nook, Sony ayb) a dyw’r rhain ddim yn gwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg. Os na fydd Amazon yn newid eu polisi  efallai mai dim ond drwy’r teclynnau hyn y bydd modd prynu elyfrau Cymraeg yn y dyfodol. Nid yw'r Lolfa wedi llwyddo i gael llyfrau Cymraeg newydd ar y Kindle ers canol Awst.

Dyma ambell i linc:


Un o lyfrau Cymraeg y Lolfa wedi ei wrthod gan Kindle (gweler y neges mewn melyn, sylwer hefyd taw Saesneg yw iaith y llyfr) http://www.amazon.co.uk/Awr-y-Locustiaid-ebook/dp/B008SC0RCS/ref=sr_1_13?ie=UTF8&qid=1347620625&sr=8-13




3 comments:

  1. Wel, beth yw'r ddyfais amgen gorau te?

    Gawn ni weld adolygiadau ac efallai cynnig rhyw fath o fargen i ddarllenwyr sydd eisiau cefnogi'r Gymraeg?

    ReplyDelete
  2. Fersiwn EPUB a werthir ar wefan Gwales.com, ac mae modd eu darllen ar unrhyw ddyfais heblaw Kindle, megis Nook, Kobo, PC etc. Awgrymwn eich bod yn defnyddio Adobe Digital Editions i ddarllen yr e-lyfrau hyn ar gyfrifiaduron sy'n rhedeg Windows a Mac OS X. Os ydych yn bwriadu lawrlwytho'r e-lyfr i ddyfais iPad neu iPhone gwnewch yn siwr eich bod yn gyntaf yn creu cyfrif defnyddiwr gydag Adobe. Yn ail, llwythwch ddarllenydd Bluefire i'ch dyfais, a nodi manylion eich cyfrif Adobe yn y ddewislen a geir o dan y tab Info o fewn y rhaglen.

    ReplyDelete
  3. Amazon yn parhau i wrthod gwerthu elyfrau newydd Cymraeg. Bydde'n gret petai modd i bobl gwyno i Amazon er mwyn iddynt weld fod galw am elyfrau Cymraeg! Dyfal donc...

    ReplyDelete