Friday 26 June 2015

Catalog Y Lolfa i'r Ifanc



Mae’r Lolfa yn falch iawn o gael cyhoeddi eu catalog llyfrau newydd sbon ar gyfer plant a phobl ifanic. Bydd y catalog yn gartref newydd i gymeriadau hoffus megis Alun yr Arth, Dona Direidi, Rwdlan, Na Nel a’u ffrindiau hñn. Daw’r catalog yn sgil adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Awst llynedd gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyhoeddi a darllen llyfrau Cymraeg i blant.Datgelodd yr adroddiad:"Erbyn i blant gyrraedd 12 oed, mae'r mwyafrif wedi newid iaith a dim ond llyfrau Saesneg y byddant yn eu benthyca, gydag ambell eithriad poblogaidd." Erbyn iddynt gyraedd eu harddegau, bychain iawn yw’r llyfrau Cymraeg a fenthycir ganddynt.

Gwasg Y Lolfa yw’r unig wasg sydd â pholisi o gyhoeddi llyfrau gwreiddiol yn unig. Mewn marchnad byd-eang hynod o gystadleuol, a dylanwad marchnata trwm llyfrau Saesneg poblogaidd, mae’n hinsawdd gynyddol anodd i lyfrau gwreiddiol Cymraeg. Ond, ble caiff addasiadau o lyfrau i blant eu hargraffu a’u cynhyrchu ar draws y byd, mae’r Lolfa yn falch o ddatgan fod eu holl gynhyrchu yn digwydd yng Nghymru yn eu hargraffdy yn Nhalybont.

Rydyn ni yn hynod o falch o’n cyfresi bywiog, gwreiddiol sydd wedi eu hysgrifennu a’u darlunio gan awduron ac artisiaid Cymreig. Mae yna rai sy’n hoff o sôn am gael ‘balans’ rhwng llyfrau gwreiddiol ac addasiadau. Yn sicr, dyw’r ‘balans’ yna ddim yn bodoli ar hyn o bryd, ac mae’n arbennig o annheg gan fod safon cynnyrch ein hawduron a’n harlunwyr ni yng Nghymru mor uchel. Mae yna resymau economaidd hefyd dros gynnal swyddi creadigol yn ein broydd, ac mae’r Lolfa’n falch o fod yn cyfrannu at hynny.

Dywedodd yr awdur, Bethan Gwanas yn ei blog poblogaidd: “Ydi o’n iawn bod 2/3 o’r holl lyfrau plant Cymraeg gafodd eu cyhoeddi y llynedd yn gyfiethiadau? [...] llyfrau Cymraeg sydd angen eu marchnata, awduron Cymraeg sydd angen hwb a gwerthiant.”
Bydd y catalog yn cael ei ddosbarthu i ysgolion a llyfrgelloedd ar draws Cymru. Gellir hefyd archebu copi am ddim drwy ebostio ylolfa@ylolfa.com


Yr Erlid yn Almaeneg




Llyfr y Flwyddyn 2013, Yr Erlid i’w gyhoeddi yn Almaeneg

Mae cwmni cyhoeddi mawr o’r Almaen, y Mitteldeutscher Verlag o Halle, wedi cytuno i gyhoeddi cyfieithiad Almaeneg o gyfrol Heini Gruffudd, Yr Erlid, a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2013.

Mae’n anghyffredin bod llyfr gwreiddiol Cymraeg yn cael ei gyhoeddi'n fasnachol yn yr Almaen, yn arbennig llyfr sy’n ymdrin â hanes yr Almaen yn yr Ail Ryfel Byd. Cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg o’r gyfrol, A Haven from Hitler, y llynedd. Mae tref Wittenberg, tref enedigol y teulu, yn cyfrannu tuag at y cyhoeddi.

Testun y llyfr yw erlid y Natsiaid ar fam Heini Gruffudd a'i theulu. Ffodd Kate Bosse Griffiths o'r Almaen yn 1936 a dod i Gymru a phriodi Cymro yn 1939. Llofruddiwyd ei mam hithau yng ngwersyll garchar Ravensbruck, ac mae’r stori ddirdynnol yn cynnwys yr erlid ar frodyr Kate ac un perthynas o Hamburg a fentrodd herio'r Natsiaid fel aelod o'r Weisse Rose. 

Bu Dr Paul Bosse, tad-cu Heini a Robat Gruffudd yn brif feddyg yr ysbyty lleol, a bu farw Kaethe Bosse yng ngwersyll garchar Ravensbrück oherwydd ei thras Iddewig. Bydd yn wych gweld y gyfrol yn ymddangos yn yr Almaeneg, ar ôl iddi gael y fath groeso yng Nghymru, a chael ei gyfieithu wedyn i’r Saesneg.

Mae'r Erlid ar werth yma yma
 

Monday 10 February 2014

Gwresogydd Biomas Newydd Y Lolfa



Wedi misoedd o waith mae gwresogydd biomas Y Lolfa yn gweithio o’r diwedd ac yn gwresogi holl swyddfeydd y cwmni a hefyd y ddau warws mawr yn y cefn. Bydd yr uned, a gostiodd bron i £100,000, yn bwydo 30 o ryddiaduron trwy ddwr tra bydd awyr cynnes yn dod ohoni i reoli tymheredd y stoc bapur a'r llyfrau.

Un o'r rhesymau dros gael biomas yw bod pris trydan a nwy wedi codi cymaint yn ddiweddar. Yn y tymor hir bydd y system newydd yn llawer rhatach, ond hefyd yn garbon newtral felly yn garedig i’r amgylchfyd. Gosodwyd panelau haul SPV i mewn ar doeon Y Lolfa ddwy flynedd yn ôl am yr un rheswm.

Mae’r system hefyd yn rhwydd i'w reoli. Gallwn ni weld yn union faint o ynni sy'n cael ei gynhyrchu bob dydd, a faint ry'n ni'n talu amdano. A does 'na ddim gwaith cynnal a chadw. Mae'r uned yn bwydo'i hun: dim ond unwaith y mis mae'n rhaid i ni glirio'r llwch allan. Gosodwyd y system biomas, fel y system ynni haul, i mewn gan gwmni Dulas o Fachynlleth gyda Marcus Hickman yn rheoli'r prosiect a Dylan Roberts o Ffestiniog yn gosod y system i mewn. Daw'r uned ei hun o Awstria. Yn anffodus dyw’r boiler ddim yn gallu llosgi llyfrau na phapur wast i gynhyrchu gwres ond daw'r pelets pren o gwmni PBE Fuels yn Hwlffordd, Sir Benfro.

Erbyn hyn daw bron y cyfan o'r egni mae'r Lolfa yn ei ddefnyddio o ffynonhellau adnewyddol.







Thursday 21 February 2013

Blwyddyn Arall, Dyddiadur Arall

Mae'r gwaith wedi dechrau ar baratoi dyddiaduron 2014 yn barod. Os oes gan unrhyw un syniadau ar sut allwn ni wella'r dyddiaduron dyma'r amser i gysylltu. Hefyd mae croeso mawr i unrhyw gwmni, sefydliad, gymdeithas ayb lanw'r ffurflen yma os ydych yn dymuno cynnwys eich manylion yn ein dyddiaduron ac ar gyfeiriadur ar-lein y Lolfa. Roedd cyfanswm gwerthiant yr holl ddyddiaduron llynedd yn rhyw 20,000 o gopiau felly mae'n gyfle da i gael sylw ac i drio ennill mwy o fusnes.

Wednesday 31 October 2012

Cyfrol i Roi Telynorion ar Ben Ffordd



Yn sgil galw gan ddarpar delynorion mae’r Lolfa wedi mynd ati i ailargraffu gwerslyfr Mair Roberts Hwyl Gyda’r Delyn. Mae dros ugain mlynedd ers i’r Lolfa gyhoeddi’r gyfrol yn wreiddiol, ac fe sefydlodd ei hun fel y cydymaith safonol ar gyfer Cymry Cymraeg sydd am fynd ati i ddysgu chwarae’r delyn. Lluniwyd y gyfrol gan Mair Roberts, un o delynorion disgleiriaf Cymru, ac mae’r gwersi wedi eu graddio yn ofalus gyda 250 o ymarferion a darnau o gerddoriaeth draddodiadol a chyfoes, clasurol a phoblogaidd i ymarfer arnynt. Mae’r gyfrol yn cynnwys ffefrynnau Cymreig fel Croen y Ddafad Felen, Bedd Dafydd Ddu a Huna Blentyn yn ogystal ag alawon gan rhai o brif gyfansoddwyr y byd fel Brahms, Bach, Handel, Mozart a Scott Joplin.

Ganed Mair Roberts yn Hen Golwyn. Bu’n delynores broffesiynol mewn sawl cerddorfa yn cynnwys Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, gan ymddangos fel unawdydd mewn nifer fawr o gyngherddau ac yn fynych ar y radio a’r teledu. Mae hi bellach yn byw yn Rhuthun. 

Bu’r gyfrol allan o brint am ryw ddeng mlynedd ond mae wastad galw wedi bod amdano. Mae’r argraffiad newydd wedi ei rwymo yn sbeiral i sicrhau ei fod yn agor yn fflat ac yn rhwydd. Bydd y gyfrol yn anhepgorol i unrhyw un, o unrhyw oed, sydd am roi cynnig ar ddysgu chwarae’r delyn, a bydd y casgliad o alawon yn siŵr o blesio telynorion dibrofiad sydd am ehangu eu repertoire.



Monday 24 September 2012

Y Kindle yn parhau i wrthod cydnabod elyfrau Cymraeg



Bellach mae tua hanner cant o lyfrau Cymraeg y Lolfa ar gael ar y Kindle ond yn anffodus mae Amazon yn parhau i wrthod cydnabod yr iaith Gymraeg. Mae’r llyfrau Cymraeg sydd ar werth ar y Kindle wedi gorfod cael eu llwytho fel llyfrau Saesneg ac fel arfer mae’r llyfrau Cymraeg yn cael eu gwrthod am nad ydynt yn adnabod yr iaith (mae’r system checio sydd ganddynt yn eitha chwit chwat - felly mae rhai llyfrau Cymraeg wedi llithro drwy’r rhwyd). Mae Amazon, fodd bynnag, yn cydnabod Catalwneg, Basgeg a Galiseg ac mae modd cyhoeddi elyfau ar gyfer y Kindle yn yr ieithoedd yma yn ddi-drafferth, heb orfod ceisio darganfod rhyw ddrws cefn ac esgus eu bod yn lyfrau Saesneg. Gweler isod y dewis o ieithoedd sydd ar gael wrth i ni lwytho llyfrau ar wefan KDP.

 

Rydym fel gwasg wedi cysylltu droeon gydag Amazon i gwyno am hyn ac wedi derbyn negeseuon annelwig yn sôn eu bod yn edrych i mewn i’r mater. Er mwyn cael y maen i’r wal byddwn yn gwerthfawrogi yn fawr petai modd i bobl sy’n defnyddio’r Kindle i gwyno am eu hamharodrwydd i gydnabod y Gymraeg a gwerthu llyfrau Cymraeg. Does dim rheswm yn y byd pan na ddylai KDP gefnogi llyfrau yn yr iaith Gymraeg yn yr un modd ag y maent yn cefnogi ieithoedd “llai eu defnydd” yn Sbaen.

Mae yna nifer o declynnau darllen elyfrau ar gael  heblaw am y Kindle (e.e. Kobo, Nook, Sony ayb) a dyw’r rhain ddim yn gwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg. Os na fydd Amazon yn newid eu polisi  efallai mai dim ond drwy’r teclynnau hyn y bydd modd prynu elyfrau Cymraeg yn y dyfodol. Nid yw'r Lolfa wedi llwyddo i gael llyfrau Cymraeg newydd ar y Kindle ers canol Awst.

Dyma ambell i linc:


Un o lyfrau Cymraeg y Lolfa wedi ei wrthod gan Kindle (gweler y neges mewn melyn, sylwer hefyd taw Saesneg yw iaith y llyfr) http://www.amazon.co.uk/Awr-y-Locustiaid-ebook/dp/B008SC0RCS/ref=sr_1_13?ie=UTF8&qid=1347620625&sr=8-13




Tuesday 22 May 2012

Lansiad Blasus Nofel Newydd Manon Steffan Ros

Yr awdures gyda'i nofel newydd

Cynhaliwyd lansiad hynod lwyddiannus yn Llyfrgell newydd y Dref, Aberystwyth nos Fercher yr 16eg o Fai wedi i haid ymgasglu i ddathlu cyhoeddi Blasu, nofel newydd Manon Steffan Ros. Yn ogystal â dathlu’r nofel newydd, roedd hi hefyd yn noson arbennig yn hanes y llyfrgell, gan mai dyna’r digwyddiad cyntaf i’w chynnal yno ers iddi agor ei drysau am y tro cyntaf ar ddechrau’r mis.

Croesawyd pawb wrth y drws gyda gwydraid o win a dewis o gacennau lu, danteithion a baratowyd yn arbennig gan yr awdures ei hun gan ddefnyddio’r ryseitiau sydd i’w cael yn y nofel, yn ogystal â chacennau bach gan gogyddes ifanc leol, Mari Elin Morgan, sydd wedi sefydlu busnes pobi ei hun yn ddiweddar, Sleisen o Deisen.

Manon Steffan Ros, Nia Peris a Branwen Rhys Huws yn mwynhau eu cacennau!
“Dwi wastad wedi bod dros fy mhen a’m clustiau mewn cariad efo bwyd,” cyfaddefodd Manon Steffan Ros yn y lansiad. “Mae fy atgofion hefyd ynghlwm â pha bynnag fwyd oedd o gwmpas ar y pryd – mae fy ngŵr yn fy herian i am ’mod i’n cofio’n union pa bryd ges i mewn bwyty ddeng mlynedd yn ôl, ond yn methu cofio lle dwi ’di rhoi fy ngoriadau! Mae bwyd yn brofiad emosiynol i mi, mae o’n un o’r ffyrdd dwi’n dangos cariad.”

Ond er bod pob pennod yn dechrau gyda rysáit wahanaol, prysurodd Manon i bwysleisio nad llyfr ryseitiau yw’r nofel, ond cyfle i ddarllenwyr flasu a phrofi’r un pethau â’r prif gymeriad, Pegi. Wrth ddewis a dethol y ryseitiau ar gyfer y nofel, cyfrannodd Manon ambell un sy’n agos at ei chalon – gan gynnwys pwdin barlys roedd ei hen hen nain yn ei baratoi bob bore ar gyfer naw o blant, a rysáit am grempogau ceirch ei nain o ochr arall y teulu.

“Mi fues i’n pendroni am hydoedd a ddylwn i ddewis ryseitiau ro’n i’n gwybod oedd yn boblogaidd a thrin y nofel fel cyfle i arddangos fy hoff fwyd. Ond, yn y diwedd, roedd amgylchiadau Pegi yn llywio’r ryseitiau.

“Mae cael perthynas gymhleth efo bwyd bron â bod yn norm erbyn hyn,” eglurodd Manon. “Dwi’n synnu faint o bobl sydd wedi dioddef o ryw anhwylder bwyta yn ystod eu bywydau, ac erbyn heddiw rydan ni’n gweld bwydydd fel rhai da neu ddrwg. Wrth gwrs, mae hyn yn golygu bod bwyd a bwyta’n brofiad emosiynol – tydi o ddim yn fater o fwynhau neu gasáu, mae o’n weithred o ddrygioni neu ddaioni.”

Dyma ail nofel yr awdures i oedolion, a hynny’n dilyn llwyddiant ei nofel gyntaf i oedolion, Fel Aderyn, enillydd gwobr Barn y Bobl Golwg 360 yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn yn 2010. Yn yr un flwyddyn fe enillodd Manon Wobr Tir na-Nog am Trwy’r Tonnau, nofel i blant a phobl ifanc, ac mae ei nofel ddiweddaraf i bobl ifanc Prism, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Tir na-Nog 2012.

Manon yn llofnodi copi i'w ffrind, Gwen Gruffudd